Vaughan Gething AS 
 Gweinidog yr Economi
 Dawn Bowden AS
 Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
 Llywodraeth Cymru

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
 —
 Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
 Senedd Cymru
 Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN
 SeneddDiwylliant@senedd.cymru
 senedd.cymru/SeneddDiwylliant
 0300 200 6565
 —
 Welsh Parliament
 Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN
 SeneddCulture@senedd.wales 
 senedd.wales/SeneddCulture
 0300 200 6565
 

 

 


24 Ionawr 2024

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 - Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Annwyl Vaughan a Dawn,

Yn dilyn ein llythyr ar 18 Ionawr 2023, rydym yn ysgrifennu atoch gyda phryderon ynghylch setliad y Gyllideb Ddrafft ar gyfer Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Cawsom ohebiaeth gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar 10 Ionawr 2024 a wnaeth beri pryder mawr i ni.

Fel y gwyddoch, mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru nifer o swyddogaethau statudol. Mae'n ofynnol, er enghraifft, i ddarparu cofnod o adeiladau hanesyddol ac archaeoleg yng Nghymru, ac mae ganddo hefyd ddyletswyddau statudol o dan y Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus sy'n ymwneud â Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Mae'r rhain yn rolau sy'n darparu cofnodion pwysig sy'n cyd-fynd â'r gwaith a wneir gan Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r gostyngiad arfaethedig o 22 y cant yn eu cyllideb, yn unol â CADW, yn peri pryder sylweddol i ni. Yn eu llythyr, maent yn dweud:

Byddai gostyngiad tecach o 10% i’n cyllideb yn dal i achosi trafferthion i ni, ond byddai’n prynu’r amser angenrheidiol i osgoi gwneud penderfyniadau brysiog a byddai’n ein galluogi i weithio gyda Cadw ac eraill i gynllunio ateb strategol a threfnus ar gyfer dyfodol y sector treftadaeth. Os na allwn sicrhau setliad grant sy’n well, bydd angen i ni gymryd camau ar unwaith i leihau nifer ein staff o 28 i 20 er mwyn osgoi sefyllfa lle gallai ein harian ddod i ben ychydig cyn Nadolig 2024.

Fel y gwyddoch, mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn gweithio ar brosiectau pwysig ar hyn o bryd gan gynnwys:

§    Prosiect newid hinsawdd CHERISH a sicrhaodd gwerth 6 miliwn o gyllid;

§    Llunio coflen o dystiolaeth a arweiniodd at ddyfarnu statws UNESCO i dirwedd llechi gogledd-orllewin Cymru;

§    Gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Treftadaeth Iddewig i drawsnewid synagog Merthyr yn ganolfan dreftadaeth;

§    Cyflawni Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru (sy'n cael ei ariannu gan raglen Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru) – prosiect arloesol sy'n casglu, arddangos ac archifo straeon pwysig sy'n adlewyrchu Cymru gyfoes;

§    Gweithio ar brosiect archaeoleg cymunedol ym mryngaer Pendinas.

Mae llawer o'r prosiectau hyn yn cyfrannu at amrywiaeth o amcanion a strategaethau'r llywodraeth, sy'n berthnasol i’ch adrannau, yn ogystal ag eraill gan gynnwys Cysylltiadau Rhyngwladol a Newid Hinsawdd. Rydym o’r farn y bydd y gostyngiad arfaethedig yn eu cyllideb yn effeithio'n ddifrifol ar eu gallu i barhau i gyflawni eu gwaith. Gallai hyn, yn ei dro, effeithio ar gyflawni nodau ac amcanion y llywodraeth.

Fel yr amlinellwyd yn llythyr y Comisiwn Brenhinol at ein Pwyllgor, bydd y gostyngiad arfaethedig yn y gyllideb yn cael effaith negyddol iawn ar ei weithlu. Heb unrhyw newidiadau i'r setliad cyllideb arfaethedig, ni fydd ganddo unrhyw ddewis ond lleihau ei nifer staff 28 y cant (o 28 i 20). Hoffem wybod pam ei fod wedi cael ei neilltuo ar gyfer gostyngiad o'r fath, o'i gymharu â chyrff eraill fel Amgueddfa Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru.

O ystyried ei statws fel sefydliad gwarchodedig, a'i rôl hanfodol wrth gyflawni llawer o amcanion y llywodraeth, gofynnwn i chi ailystyried y gostyngiad arfaethedig yn ei gyllideb o 22 y cant i 10 y cant. Byddai hyn yn sicrhau cydraddoldeb â'i bartneriaid yn y sector ehangach.

Byddem hefyd yn gofyn pa gymorth ariannol y gallwch ei ddarparu ar gyfer rhaglen diswyddo gwirfoddol.

Mae cadw straeon ein hamgylchedd adeiledig hanesyddol a'n hanes archaeolegol yr un mor bwysig i adrodd hanes Cymru â gwarchod y casgliad cenedlaethol. Byddem yn eich annog i ailystyried setliad y gyllideb ar gyfer Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru fel mater o flaenoriaeth.

Edrychaf ymlaen at gael eich ymateb.

Yn gywir

Text, letter  Description automatically generated

Delyth Jewell AS
Cadeirydd y Pwyllgor

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.